Hunanasesiad: Cais i leihau taliadau ar gyfrif (SA303)
Defnyddiwch wasanaeth ar-lein neu'r ffurflen drwy'r post er mwyn gwneud cais i ostwng eich taliadau Hunanasesiad ar gyfrif.
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i ostwng y swm y gofynnwyd i chi’i dalu os:
- yw’ch elw busnes neu incwm arall yn gostwng
- yw’r rhyddhad dreth sydd gennych hawl iddo’n codi
Gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein (mewngofnodwch i, neu agorwch, gyfrif Porth y Llywodraeth)
- llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth – er enghraifft erbyn 31 Ionawr 2017 ar gyfer y flwyddyn 2015 i 2016.
Apelio yn erbyn cosb
Apeliwch yn erbyn cosb drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu darllenwch yr arweiniad ar sut i apelio.
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.
Ffurflenni ac arweiniad perthnasol
Understand your Self Assessment tax bill
Manylion o bryd a pham y mae’n rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer Hunanasesiad.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 November 2015 + show all updates
-
An online service is now available.
-
First published.